Y cyngor a democratiaeth > Datganiadau

Datgan cysylltiad

 Declarations

Meeting:  Dydd Mercher, 16eg Awst, 2023 5.00 pm - Pwyllgor Cynllunio

4. Rhif y cais. 22/0072/FULL - Tir ar Gyfeirnod Grid 311809 189556, Ffordd Ifor, Abertridwr

  • Cynghorydd Robert Edward Chapman - Personal and Prejudicial - Datganodd y Cynghorydd R. Chapman fuddiant personol a rhagfarnus am fod aelod agos o'r teulu yn gweithio i'r ymgeisydd. Gadawodd y cyfarfod wrth i'r cais gael ei drafod ac ni chymerodd ran yn y ddadl na'r bleidlais.

Meeting:  Dydd Mercher, 11eg Hydref, 2023 5.00 pm - Pwyllgor Cynllunio

6. Rhif cais: 23/0452/LA - Ysgol Fabanod Llanfabon, Bryncelyn, Nelson, Treharris CF46 6HL.

  • Cynghorydd Brenda Miles - Personal - Fe wnaeth y Cynghorydd B. Miles ddatgan buddiant personol gan fod ganddi berthynas sydd â phlentyn yn Ysgol Fabanod Llanfabon ac mae hi'n Llywodraethwr wedi'i benodi gan yr Awdurdod Lleol yn Ysgol Iau Llancaeach. Gan mai buddiannau personol yn unig oedd y rhain, nid oedd yn ofynnol iddi adael y cyfarfod ac roedd modd iddi gymryd rhan lawn yn y ddadl a'r bleidlais.

Meeting:  Dydd Mercher, 13eg Rhagfyr, 2023 5.00 pm - Pwyllgor Cynllunio

4. Rhif y cais: 23/0470/FULL - Tir yng nghyfeirnod grid 310441 193869, Craig-Evan-Leyshon Common Road, Llanfabon, Nelson.

  • Cynghorydd Brenda Miles - Personal and Prejudicial - Datganodd y Cynghorydd B. Miles fuddiant personol a rhagfarnus gan ei bod hi wedi penderfynu ar y cais ymlaen llaw oherwydd ei bod hi'n gwrthwynebu'r cais fel Aelod Ward lleol. Gadawodd hi'r cyfarfod wrth i'r cais gael ei drafod.

Meeting:  Dydd Mercher, 10fed Ionawr, 2024 5.00 pm - Pwyllgor Cynllunio

4. Rhif Cais: 23/0555/FULL - Stately-Albion Ltd, Uned 14, Darren Drive, Ystâd Ddiwydiannol Tywysog Cymru, Abercarn, Casnewydd NP11 5AR

  • Cynghorydd Andrew Whitcombe - Personal - Datganodd y Cynghorydd Whitcombe fuddiant personol yn unig fel aelod ward lleol sy'n byw’n agos at y datblygiad arfaethedig ac sy'n adnabod nifer o bobl sy’n gweithio i’r sefydliad; er hynny, teimlai nad oedd y cysylltiad yn ddigon cryf i fod yn rhagfarnllyd a chadwodd feddwl agored mewn perthynas â’r cais a, felly, byddai'n cymryd rhan yn y ddadl a'r bleidlais.
  • Cynghorydd Kristian Woodland - Personal - Datganodd y Cynghorydd Woodland fuddiant personol oherwydd bod ei gyd Gynghorydd Ward Crymlyn yn gweithio ar safle’r cais, a gan mai buddiant personol yn unig oedd hwn, byddai’n cymryd rhan lawn yn y ddadl a’r bleidlais.

Meeting:  Dydd Mercher, 7fed Chwefror, 2024 5.00 pm - Pwyllgor Cynllunio

5. Rhif y Cais: 23/0364/FULL - Robinson Manufacturing Ltd, Yr Hen Chwarel, Cemetery Road, Abercarn, Casnewydd, NP11 5AQ.

  • Cynghorydd Andrew Whitcombe - Personal and Prejudicial - Datganodd y Cynghorydd A. Whitcombe fuddiant personol a rhagfarnus oherwydd ei fod wedi penderfynu ar y cais ymlaen llaw oherwydd ei fod yn gwrthwynebu fel Aelod Ward lleol. Gadawodd y cyfarfod tra roedd y cais yn cael ei drafod.

Meeting:  Dydd Mercher, 10fed Ebrill, 2024 5.00 pm - Pwyllgor Cynllunio

4. Cais: 23/0347/COU - Newid y defnydd o adeilad swyddfa i 8 fflat preswyl - Adeiladau'r Institiwt, Crumlin Square, Crymlyn.

  • Cynghorydd Kristian Woodland - Personal and Prejudicial - Datganodd y Cynghorydd K. Woodland fuddiant personol a rhagfarnus oherwydd ei fod wedi penderfynu ar y cais ymlaen llaw oherwydd ei fod yn gwrthwynebu fel Aelod Ward lleol. Gadawodd y cyfarfod tra roedd y cais yn cael ei drafod.