Y cyngor a democratiaeth > Manylion y Pwyllgor

Manylion Pwyllgor

Cabinet

Diben y Pwyllgor

Fel rhan o foderneiddio llywodraeth leol yng Nghymru, mae'r cyngor wedi dechrau ar ddull cabinet o lywodraeth leol. Ymgynghorasom â'r cyhoedd ynglŷn â'r ffordd y mae'r holl gynghorau yng Nghymru wedi cael y cyfle i ddewis y ffordd y maent yn dymuno cynnal eu busnes. Ymgynghorwyd â 1000oedd o bobl yn y fwrdeistref sirol ac arweiniodd hyn at benderfyniad pendant i ddewis y system Arweinydd ynghyd â Chabinet. Mae'r system newydd wedi creu strwythur gwleidyddol newydd ar gyfer y cyngor yn cyflymu gwneud penderfyniadau gan gadw ffurf agored a thryloyw o lywodraeth gymunedol.

Mae'r Cabinet yn gyfrifol am wneud y mwyafrif o benderfyniadau polisi'r Cyngor ac yn cynnwys arweinydd, dau ddirprwy arweinydd ac wyth aelod Cabinet o'r 69 cynghorydd etholedig.

Mae gan bob aelod Cabinet faes portffolio penodol â'u rôl yw symud ymlaen eu rhan yn Rhaglen Waith y Cabinet. Mae'n bwysig bod gan bawb ddealltwriaeth glir o'r hyn y mae'r Cabinet wedi nodi fel y materion pwysicaf, sut yr ydym yn bwriadu mynd i'r afael â hwy â'r hyn yr ydym yn bwriadu ei gyflawni, ac erbyn pryd.

Mae cynnydd y Cabinet yn cael ei fonitro yn ystod y flwyddyn trwy Bwyllgorau Craffu a bydd asesiad o'i berfformiad yn digwydd ar ddiwedd y flwyddyn. Gwneir penderfyniadau pwysig, megis pennu cyllideb y cyngor, gan y Cyngor Llawn, tra bod rhai penderfyniadau eraill dydd-i-ddydd yn cael eu dirprwyo i uwch swyddogion.

Am ymholiadau’n ymwneud â Swyddfa’r Cabinet cysylltwch â:

Karen Green (Cynorthwyydd Personol i’r Arweinydd a Swyddfa’r Cabinet)

Ffôn: 01443 864400                                          E-bost: greenk@caerffili.gov.uk

 

 

Aelodaeth

Gwybodaeth gyswllt

Swyddog cefnogi: Jo Green.

Ffôn: 07714600912

E-bost: Greenj1@caerphilly.gov.uk