Cysylltu â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac yn ymuno yn y sgwrs
Agenda
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i weld ein gweddarllediadau sydd ar gael.
Lleoliad: Digital Meeting Via Microsoft Teams. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Sullivan
Rhif | Iitem |
---|---|
I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb |
|
Cyhoeddiadau’r Maer. |
|
I dderbyn deisebau o dan Reol Gweithdrefn 28(3). |
|
Cyflwyno Gwobrau. |
|
Datganiadau o Ddiddordeb. |
|
Atgoffi’r Cynghorwyr a Swyddogion o'u cyfrifoldeb personol i ddatgan unrhyw fuddiannau personol a/neu niweidiol mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes ar yr agenda hwn yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a'r Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr a Swyddogion. |
|
I gymeradwyo a llofnodi’r cofnodion canlynol:- |
|
Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2021. PDF 150 KB |
|
I dderbyn ac i ateb cwestiynau a dderbyniwyd o dan Reol Gweithdrefn 10 (2). Cwestiwn i
Arweinydd y Cyngor gan y Cynghorydd G. Simmonds Gofyn i Arweinydd
y Cyngor, pa sancsiynau sydd ar gael i'r Arweinydd, y Cabinet a'r Cyngor, pan
ddangosir bod gweision cyhoeddus sy'n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol
Caerffili wedi gweithredu y tu allan i bolisi neu strategaeth gymeradwy yr
Awdurdod. Isod, fe welwch
chi adran o'r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweision Cyhoeddus, a'u cyfrifoldebau i'r
Cyngor a'r holl Gynghorwyr. COD YMDDYGIAD
I GYFLOGEION (Daw'r testun
Cymraeg canlynol o Gyfansoddiad y Cyngor.) 2. Cysylltiadau
rhwng Aelodau a Swyddogion 2.2 Mae'r Aelodau
a'r Swyddogion yn rhannu cyfrifoldeb i gydweithio i gyflawni penderfyniadau er
lles y Cyngor a'r ardal mae'n ei gwasanaethu. Mae'r Swyddogion yn gwasanaethu'r
Cyngor yn gyfan ac yn gweithredu mewn ffordd sy'n wleidyddol niwtral wrth roi
cyngor proffesiynol a chymorth cyffredinol i'r holl Aelodau. 2.3 Waeth beth fo
eu maint, mae gan yr holl grwpiau gwleidyddol hawl i gael eu trin yn gyfartal
gan y Swyddogion. Mae gan yr holl grwpiau gwleidyddol a'r Aelodau nad ydynt
mewn grwpiau gwleidyddol hawl i gael gwybodaeth oddi wrth y Swyddogion trwy
sianelau sefydledig y Cyngor i'r un graddau, ac mae ganddynt hawl i alw ar
gymorth y Swyddogion i'w cynorthwyo. Nodir y sianelau hyn yn nes ymlaen yn y
protocol. Cyfansoddiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Diwygiwyd: Mai 2021
Rhan 5 – Codau a Phrotocolau Tudalen 84 3. SAFONAU 3.1 Mae gan y
cyhoedd hawl i ddisgwyl y safonau ymddygiad uchaf oddi wrth bob cyflogai cymwys
yn yr awdurdodau perthnasol. Rôl cyflogeion o'r
fath yw gwasanaethu'r awdurdod sy'n eu cyflogi wrth iddo roi cyngor, rhoi ei
bolisïau ar waith a chyflwyno
gwasanaethau i'r gymuned leol. Wrth gyflawni eu dyletswyddau, rhaid iddynt
weithredu yn union, yn onest, yn ddiduedd ac yn wrthrychol. Mae cyflogeion
cymwys yr awdurdodau perthnasol yn gweithio i'r awdurdod sy'n eu cyflogi ac yn
gwasanaethu'r cyfan o'r awdurdod hwnnw. Maent yn atebol i'r awdurdod hwnnw ac
mae arnynt ddyletswydd tuag ato. Rhaid iddynt weithredu yn unol â'r egwyddorion
a nodir yn y Cod hwn, gan gydnabod dyletswydd holl gyflogeion y sector
cyhoeddus i gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yn rhesymol ac yn unol â'r
gyfraith. (Mae hwn yn un o ofynion y Cod
Statudol) 4. DATGELU
GWYBODAETH 4.1 Bod yn
agored wrth ledaenu gwybodaeth ac wrth wneud penderfyniadau a ddylai fod yn
arferol yn yr awdurdodau perthnasol. Er hynny, fe all gwybodaeth benodol fod yn gyfrinachol neu'n sensitif ac
felly yn amhriodol ar gyfer cynulleidfa ehangach. Os oes angen bod yn
gyfrinachol er mwyn diogelu preifatrwydd neu hawliau eraill unigolion neu
gyrff. (Mae hwn yn un o ofynion y Cod Statudol) 4.2 Derbynnir
yn gyffredinol mai llywodraeth agored sydd orau. Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i rai
mathau o wybodaeth fod ar gael i aelodau, archwilwyr, adrannau llywodraethau,
defnyddwyr gwasanaethau a'r cyhoedd. Fodd bynnag, rhaid rhoi sylw dyledus i'r
gofynion deddfwriaethol a'r cyngor canlynol. 5.
AMHLEIDIOLDEB GWLEIDYDDOL 5.1 Rhaid i gyflogeion cymwys yr awdurdodau perthnasol, p'un a ydynt o dan gyfyngiad gwleidyddol neu beidio, ddilyn holl bolisïau'r awdurdod sydd wedi'u mynegi'n gyfreithlon ... weld y testun Agenda llawn ar gyfer eitem 8. |
|
I dderbyn ac i ateb cwestiynau a dderbyniwyd o dan Reol Gweithdrefn 10(4). Cwestiwn i'r Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros
Isadeiledd ac Eiddo gan y Cynghorydd C. Bezzina. A all y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros
Isadeiledd ac Eiddo ddweud wrthym ni ba gamau y bydd y Cyngor hwn yn eu cymryd
i hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus? Cwestiwn i'r Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros
Isadeiledd ac Eiddo gan y Cynghorydd K. Etheridge. Gofyn i'r Aelod Cabinet egluro a diffinio'r sgyrsiau archwiliadol y mae ef a'r Aelod o'r Senedd ar gyfer Caerffili wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gan gynnwys y cynnwys mewn perthynas â llwybr trafnidiaeth posibl o bob ardal yn Lleoliadau Bwrdeistref Sirol Caerffili i Ysbyty'r Faenor oherwydd mae'r ohebiaeth rydw i wedi'i chael yn cyfeirio at Gaerffili yn unig? |
|
To receive and consider the following reports: - |
|
Derbyn Hysbysiad o Gynnig – Adolygiad o Gyfansoddiad y Cyngor a Phrotocol Aelodau. PDF 212 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Hysbysiad o Gynnig - Penderfyniad Cynllunio am Nine Mile Point. PDF 217 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Derbyn Hysbysiad o Gynnig - Canolfannau Dydd. PDF 241 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Derbyn Hysbysiad o Gynnig - Ymgyrch Busnes Ynni Lleol. PDF 211 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Llythyr Blynyddol 2020/2021. PDF 219 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Nodi'r adroddiad canlynol a ystyriwyd yn eitem
frys ac eithriedig gan y Cabinet: - |
|
Prynu Tir yn Groveside Road, Oakdale, Coed Duon ar gyfer Darpariaeth Rhandiroedd Amgen PDF 193 KB Dogfennau ychwanegol:
|
|
Pleidleisiau - Cyngor 16 Tachwedd 2021. PDF 90 KB Dogfennau ychwanegol: |