Y cyngor a democratiaeth > Agenda

Agenda

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i weld ein gweddarllediadau sydd ar gael.

Lleoliad: Digital Meeting Via Microsoft Teams. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Sullivan 

Eitemau
Rhif Iitem

1.

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Cyhoeddiadau’r Maer.

3.

I dderbyn deisebau o dan Reol Gweithdrefn 28(3).

4.

Cyflwyno Gwobrau.

5.

Datganiadau o Ddiddordeb.

Atgoffi’r Cynghorwyr a Swyddogion o'u cyfrifoldeb personol i ddatgan unrhyw fuddiannau personol a/neu niweidiol mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes ar yr agenda hwn yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a'r Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr a Swyddogion.

I gymeradwyo a llofnodi’r cofnodion canlynol:-

6.

Cyngor 5 Hydref 2021. pdf icon PDF 375 KB

7.

Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2021. pdf icon PDF 150 KB

8.

I dderbyn ac i ateb cwestiynau a dderbyniwyd o dan Reol Gweithdrefn 10 (2).

Cwestiwn i Arweinydd y Cyngor gan y Cynghorydd G. Simmonds

 

Gofyn i Arweinydd y Cyngor, pa sancsiynau sydd ar gael i'r Arweinydd, y Cabinet a'r Cyngor, pan ddangosir bod gweision cyhoeddus sy'n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gweithredu y tu allan i bolisi neu strategaeth gymeradwy yr Awdurdod.

 

Isod, fe welwch chi adran o'r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweision Cyhoeddus, a'u cyfrifoldebau i'r Cyngor a'r holl Gynghorwyr.

 

COD YMDDYGIAD I GYFLOGEION

(Daw'r testun Cymraeg canlynol o Gyfansoddiad y Cyngor.)

 

2. Cysylltiadau rhwng Aelodau a Swyddogion

 

2.2 Mae'r Aelodau a'r Swyddogion yn rhannu cyfrifoldeb i gydweithio i gyflawni penderfyniadau er lles y Cyngor a'r ardal mae'n ei gwasanaethu. Mae'r Swyddogion yn gwasanaethu'r Cyngor yn gyfan ac yn gweithredu mewn ffordd sy'n wleidyddol niwtral wrth roi cyngor proffesiynol a chymorth cyffredinol i'r holl Aelodau.

2.3 Waeth beth fo eu maint, mae gan yr holl grwpiau gwleidyddol hawl i gael eu trin yn gyfartal gan y Swyddogion. Mae gan yr holl grwpiau gwleidyddol a'r Aelodau nad ydynt mewn grwpiau gwleidyddol hawl i gael gwybodaeth oddi wrth y Swyddogion trwy sianelau sefydledig y Cyngor i'r un graddau, ac mae ganddynt hawl i alw ar gymorth y Swyddogion i'w cynorthwyo. Nodir y sianelau hyn yn nes ymlaen yn y protocol. Cyfansoddiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Diwygiwyd: Mai 2021 Rhan 5 – Codau a Phrotocolau Tudalen 84

 

3. SAFONAU

 

3.1 Mae gan y cyhoedd hawl i ddisgwyl y safonau ymddygiad uchaf oddi wrth bob cyflogai cymwys yn yr awdurdodau perthnasol. Rôl cyflogeion o'r fath yw gwasanaethu'r awdurdod sy'n eu cyflogi wrth iddo roi cyngor, rhoi ei bolisïau ar  waith a chyflwyno gwasanaethau i'r gymuned leol. Wrth gyflawni eu dyletswyddau, rhaid iddynt weithredu yn union, yn onest, yn ddiduedd ac yn wrthrychol. Mae cyflogeion cymwys yr awdurdodau perthnasol yn gweithio i'r awdurdod sy'n eu cyflogi ac yn gwasanaethu'r cyfan o'r awdurdod hwnnw. Maent yn atebol i'r awdurdod hwnnw ac mae arnynt ddyletswydd tuag ato. Rhaid iddynt weithredu yn unol â'r egwyddorion a nodir yn y Cod hwn, gan gydnabod dyletswydd holl gyflogeion y sector cyhoeddus i gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yn rhesymol ac yn unol â'r gyfraith. (Mae hwn yn un o ofynion y Cod  Statudol)

 

4. DATGELU GWYBODAETH

 

4.1 Bod yn agored wrth ledaenu gwybodaeth ac wrth wneud penderfyniadau a ddylai fod yn arferol yn yr awdurdodau perthnasol. Er hynny, fe all gwybodaeth benodol fod yn gyfrinachol neu'n sensitif ac felly yn amhriodol ar gyfer cynulleidfa ehangach. Os oes angen bod yn gyfrinachol er mwyn diogelu preifatrwydd neu hawliau eraill unigolion neu gyrff. (Mae hwn yn un o ofynion y Cod Statudol)

4.2 Derbynnir yn gyffredinol mai llywodraeth agored sydd orau. Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i rai mathau o wybodaeth fod ar gael i aelodau, archwilwyr, adrannau llywodraethau, defnyddwyr gwasanaethau a'r cyhoedd. Fodd bynnag, rhaid rhoi sylw dyledus i'r gofynion deddfwriaethol a'r cyngor canlynol.

 

5. AMHLEIDIOLDEB GWLEIDYDDOL

5.1 Rhaid i gyflogeion cymwys yr awdurdodau perthnasol, p'un a ydynt o dan gyfyngiad gwleidyddol neu beidio, ddilyn holl bolisïau'r awdurdod sydd wedi'u mynegi'n gyfreithlon  ...  weld y testun Agenda llawn ar gyfer eitem 8.

9.

I dderbyn ac i ateb cwestiynau a dderbyniwyd o dan Reol Gweithdrefn 10(4).

Cwestiwn i'r Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Isadeiledd ac Eiddo gan y Cynghorydd C. Bezzina.

A all y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Isadeiledd ac Eiddo ddweud wrthym ni ba gamau y bydd y Cyngor hwn yn eu cymryd i hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus?

 

Cwestiwn i'r Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Isadeiledd ac Eiddo gan y Cynghorydd K. Etheridge.

Gofyn i'r Aelod Cabinet egluro a diffinio'r sgyrsiau archwiliadol y mae ef a'r Aelod o'r Senedd ar gyfer Caerffili wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gan gynnwys y cynnwys mewn perthynas â llwybr trafnidiaeth posibl o bob ardal yn Lleoliadau Bwrdeistref Sirol Caerffili i Ysbyty'r Faenor oherwydd mae'r ohebiaeth rydw i wedi'i chael yn cyfeirio at Gaerffili yn unig?

To receive and consider the following reports: - 

10.

Derbyn Hysbysiad o Gynnig – Adolygiad o Gyfansoddiad y Cyngor a Phrotocol Aelodau. pdf icon PDF 212 KB

Dogfennau ychwanegol:

11.

Hysbysiad o Gynnig - Penderfyniad Cynllunio am Nine Mile Point. pdf icon PDF 217 KB

Dogfennau ychwanegol:

12.

Derbyn Hysbysiad o Gynnig - Canolfannau Dydd. pdf icon PDF 241 KB

Dogfennau ychwanegol:

13.

Derbyn Hysbysiad o Gynnig - Ymgyrch Busnes Ynni Lleol. pdf icon PDF 211 KB

Dogfennau ychwanegol:

14.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Llythyr Blynyddol 2020/2021. pdf icon PDF 219 KB

Dogfennau ychwanegol:

15.

Aelodaeth a Threfniadau Cadeirio y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i ddod i rym o fis Mai 2022. pdf icon PDF 152 KB

Nodi'r adroddiad canlynol a ystyriwyd yn eitem frys ac eithriedig gan y Cabinet: -

 

16.

Prynu Tir yn Groveside Road, Oakdale, Coed Duon ar gyfer Darpariaeth Rhandiroedd Amgen pdf icon PDF 193 KB

Dogfennau ychwanegol:

17.

Pleidleisiau - Cyngor 16 Tachwedd 2021. pdf icon PDF 90 KB

Dogfennau ychwanegol: