Y cyngor a democratiaeth > Datganiadau

Datgan cysylltiad

 Declarations

Meeting:  Dydd Mawrth, 31ain Hydref, 2023 5.30 pm - Pwyllgor Craffu Tai a'r Amgylchedd

7. Gweithredu Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol (SARS)

  • Cynghorydd Dawn Ingram-Jones - Personal - Datganodd y Cynghorydd Ingram-Jones fuddiant personol ynglŷn ag eitem 7 ar yr agenda gan fod ei phrosiect yn cael ei ariannu gan Teuluoedd yn Gyntaf.

Meeting:  Dydd Mawrth, 21ain Tachwedd, 2023 5.30 pm - Pwyllgor Craffu Tai a'r Amgylchedd

4. Taliadau Cyfrif Refeniw Tai 2024/2025

  • Cynghorydd Amanda McConnell - Personal and Prejudicial - Fe wnaeth y Cynghorydd A. McConnell ddatgan buddiant personol a rhagfarnus ar eitem 4 ar yr agenda am ei fod yn Ddeiliad Contract Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
  • Cynghorydd Robert Edward Chapman - Personal - Fe wnaeth y Cynghorydd R. Chapman ddatgan buddiant personol yn unig gan fod aelod agos o'r teulu yn Ddeiliad Contract Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili..

Meeting:  Dydd Mawrth, 13eg Chwefror, 2024 5.30 pm - Pwyllgor Craffu Tai a'r Amgylchedd

9. Meini Prawf Dyrannu ar gyfer Caeau Chwaraeon Artiffisial a Chanolfan Rhagoriaeth Chwaraeon Ystrad Mynach.

  • Cynghorydd Haydn Pritchard - Personal - Fe wnaeth y Cynghorydd H Pritchard ddatgan buddiant personol yn unig mewn perthynas ag eitem 9 ar yr agenda – Meini Prawf Dyrannu ar gyfer Caeau Chwaraeon Artiffisial a Chanolfan Rhagoriaeth Chwaraeon Ystrad Mynach, gan ei fod yn Aelod o Bwyllgor ar gyfer tîm pêl-droed lleol. Gan fod y buddiant yn un personol yn unig, nid oedd yn ofynnol iddo adael y cyfarfod ac roedd modd iddo gymryd rhan lawn yn y ddadl a'r bleidlais.

Meeting:  Dydd Mawrth, 13eg Chwefror, 2024 5.30 pm - Pwyllgor Craffu Tai a'r Amgylchedd

10. Archwiliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd o Wasanaethau Gorfodi Cyfraith Bwyd Caerffili

  • Cynghorydd Charlotte Bishop - Personal - Fe wnaeth y Cynghorydd C Bishop ddatgan buddiant personol yn unig mewn perthynas ag eitem 10 ar yr agenda – Archwiliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd o Wasanaethau Gorfodi Cyfraith Bwyd Caerffili, gan ei bod yn gweithio mewn caffi. Gan fod y buddiant yn un personol yn unig, nid oedd yn ofynnol iddi adael y cyfarfod ac roedd modd iddi gymryd rhan lawn yn y ddadl a'r bleidlais.