Cysylltu â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac yn ymuno yn y sgwrs
Manylion Pwyllgor
Cabinet
Diben y Pwyllgor
Fel rhan o foderneiddio llywodraeth
leol yng Nghymru, mae'r cyngor wedi dechrau ar ddull cabinet o lywodraeth leol.
Ymgynghorasom â'r cyhoedd ynglŷn â'r ffordd y mae'r holl gynghorau yng
Nghymru wedi cael y cyfle i ddewis y ffordd y maent yn dymuno cynnal eu busnes.
Ymgynghorwyd â 1000oedd o bobl yn y fwrdeistref sirol ac arweiniodd hyn at
benderfyniad pendant i ddewis y system Arweinydd ynghyd â Chabinet. Mae'r
system newydd wedi creu strwythur gwleidyddol newydd ar gyfer y cyngor yn
cyflymu gwneud penderfyniadau gan gadw ffurf agored a thryloyw o lywodraeth
gymunedol.
Mae'r Cabinet yn gyfrifol am wneud y mwyafrif o
benderfyniadau polisi'r Cyngor ac yn cynnwys arweinydd, dau ddirprwy arweinydd
ac wyth aelod Cabinet o'r 73 cynghorydd etholedig.
Mae gan bob aelod Cabinet faes
portffolio penodol â'u rôl yw symud ymlaen eu rhan yn Rhaglen Waith y Cabinet.
Mae'n bwysig bod gan bawb ddealltwriaeth glir o'r hyn y mae'r Cabinet wedi nodi
fel y materion pwysicaf, sut yr ydym yn bwriadu mynd i'r afael â hwy â'r hyn yr
ydym yn bwriadu ei gyflawni, ac erbyn pryd.
Mae cynnydd y Cabinet yn cael ei fonitro yn ystod y
flwyddyn trwy Bwyllgorau Craffu a bydd asesiad o'i berfformiad yn digwydd ar
ddiwedd y flwyddyn. Gwneir penderfyniadau pwysig, megis pennu cyllideb y
cyngor, gan y Cyngor Llawn, tra bod rhai penderfyniadau eraill dydd-i-ddydd yn
cael eu dirprwyo i uwch swyddogion.
Am ymholiadau’n ymwneud â Swyddfa’r Cabinet cysylltwch â:
Karen Green (Cynorthwyydd Personol i’r Arweinydd a Swyddfa’r Cabinet)
Ffôn: 01443
864400
E-bost: greenk@caerffili.gov.uk
Aelodaeth
- Cynghorydd Shayne Cook Cabinet Member for Social Care
- Cynghorydd Nigel George Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd a Gwasanaethau’r Gymdogaeth
- Cynghorydd Colin Gordon Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol
- Cynghorydd Mrs Philippa Marsden Arweinydd y Cyngor
- Cynghorydd Sean Morgan Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Adfywio, Trafnidiaeth a Chynaladwyedd
- Cynghorydd Mrs Lisa Phipps Aelod Cabinet dros Gartrefi, Lleoedd a Thwristiaeth
- Cynghorydd John Ridgewell Cabinet Member for Environment and Infrastructure
- Cynghorydd Mrs Eluned Stenner Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Chynllunio.
- Cynghorydd Ross Whiting Cabinet Member for Learning and Achievement
Gwybodaeth gyswllt
Swyddog cefnogi: Charlotte Evans.
Ffôn: 01443 864210
E-bost: evansca1@caerphilly.gov.uk