Y cyngor a democratiaeth > Agenda item

Agenda item

I dderbyn ac i ateb cwestiynau a dderbyniwyd o dan Reol Gweithdrefn 10 (2).

Cwestiwn i Arweinydd y Cyngor gan y Cynghorydd G. Simmonds

 

Gofyn i Arweinydd y Cyngor, pa sancsiynau sydd ar gael i'r Arweinydd, y Cabinet a'r Cyngor, pan ddangosir bod gweision cyhoeddus sy'n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gweithredu y tu allan i bolisi neu strategaeth gymeradwy yr Awdurdod.

 

Isod, fe welwch chi adran o'r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweision Cyhoeddus, a'u cyfrifoldebau i'r Cyngor a'r holl Gynghorwyr.

 

COD YMDDYGIAD I GYFLOGEION

(Daw'r testun Cymraeg canlynol o Gyfansoddiad y Cyngor.)

 

2. Cysylltiadau rhwng Aelodau a Swyddogion

 

2.2 Mae'r Aelodau a'r Swyddogion yn rhannu cyfrifoldeb i gydweithio i gyflawni penderfyniadau er lles y Cyngor a'r ardal mae'n ei gwasanaethu. Mae'r Swyddogion yn gwasanaethu'r Cyngor yn gyfan ac yn gweithredu mewn ffordd sy'n wleidyddol niwtral wrth roi cyngor proffesiynol a chymorth cyffredinol i'r holl Aelodau.

2.3 Waeth beth fo eu maint, mae gan yr holl grwpiau gwleidyddol hawl i gael eu trin yn gyfartal gan y Swyddogion. Mae gan yr holl grwpiau gwleidyddol a'r Aelodau nad ydynt mewn grwpiau gwleidyddol hawl i gael gwybodaeth oddi wrth y Swyddogion trwy sianelau sefydledig y Cyngor i'r un graddau, ac mae ganddynt hawl i alw ar gymorth y Swyddogion i'w cynorthwyo. Nodir y sianelau hyn yn nes ymlaen yn y protocol. Cyfansoddiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Diwygiwyd: Mai 2021 Rhan 5 – Codau a Phrotocolau Tudalen 84

 

3. SAFONAU

 

3.1 Mae gan y cyhoedd hawl i ddisgwyl y safonau ymddygiad uchaf oddi wrth bob cyflogai cymwys yn yr awdurdodau perthnasol. Rôl cyflogeion o'r fath yw gwasanaethu'r awdurdod sy'n eu cyflogi wrth iddo roi cyngor, rhoi ei bolisïau ar  waith a chyflwyno gwasanaethau i'r gymuned leol. Wrth gyflawni eu dyletswyddau, rhaid iddynt weithredu yn union, yn onest, yn ddiduedd ac yn wrthrychol. Mae cyflogeion cymwys yr awdurdodau perthnasol yn gweithio i'r awdurdod sy'n eu cyflogi ac yn gwasanaethu'r cyfan o'r awdurdod hwnnw. Maent yn atebol i'r awdurdod hwnnw ac mae arnynt ddyletswydd tuag ato. Rhaid iddynt weithredu yn unol â'r egwyddorion a nodir yn y Cod hwn, gan gydnabod dyletswydd holl gyflogeion y sector cyhoeddus i gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yn rhesymol ac yn unol â'r gyfraith. (Mae hwn yn un o ofynion y Cod  Statudol)

 

4. DATGELU GWYBODAETH

 

4.1 Bod yn agored wrth ledaenu gwybodaeth ac wrth wneud penderfyniadau a ddylai fod yn arferol yn yr awdurdodau perthnasol. Er hynny, fe all gwybodaeth benodol fod yn gyfrinachol neu'n sensitif ac felly yn amhriodol ar gyfer cynulleidfa ehangach. Os oes angen bod yn gyfrinachol er mwyn diogelu preifatrwydd neu hawliau eraill unigolion neu gyrff. (Mae hwn yn un o ofynion y Cod Statudol)

4.2 Derbynnir yn gyffredinol mai llywodraeth agored sydd orau. Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i rai mathau o wybodaeth fod ar gael i aelodau, archwilwyr, adrannau llywodraethau, defnyddwyr gwasanaethau a'r cyhoedd. Fodd bynnag, rhaid rhoi sylw dyledus i'r gofynion deddfwriaethol a'r cyngor canlynol.

 

5. AMHLEIDIOLDEB GWLEIDYDDOL

5.1 Rhaid i gyflogeion cymwys yr awdurdodau perthnasol, p'un a ydynt o dan gyfyngiad gwleidyddol neu beidio, ddilyn holl bolisïau'r awdurdod sydd wedi'u mynegi'n gyfreithlon a rhaid iddynt beidio â chaniatáu i'w barn bersonol neu wleidyddol hwy eu hunain ymyrryd â'u gwaith. Os yw'r cyflogeion cymwys o dan gyfyngiad gwleidyddol (oherwydd y swydd sydd ganddynt, natur y gwaith a  wnânt, neu'r cyflog a delir iddynt), rhaid iddynt gydymffurfio ag unrhyw  gyfyngiadau statudol ar eu gweithgareddau gwleidyddol. (Mae hwn yn un o ofynion y Cod Statudol)

5.2 Mae cyflogeion yn cael eu cyflogi i wasanaethu'r Cyngor yn gyfan. Mae'n dilyn bod rhaid iddynt wasanaethu'r holl Aelodau Etholedig ac nid dim ond y rhai yn y grŵp rheoli. Rhaid iddynt sicrhau y caiff hawliau unigol pob Cynghorydd eu parchu. Rhaid rhoi sylw i hawliau Cynghorwyr a nodir yng Nghyfansoddiad y Cyngor; gall y Swyddog Monitro roi cyngor ar y rhain.

5.4 Rhaid i'r holl gyflogeion, (p'un a yw eu swyddi o dan gyfyngiad gwleidyddol neu beidio), ddilyn holl bolisïau'r Cyngor sydd wedi'u mynegi'n gyfreithlon a rhaid iddynt beidio â chaniatáu i'w barn bersonol neu wleidyddol hwy eu hunain ymyrryd â'u gwaith.